top of page

Does neb yn gwybod mwy...

Croesi'r Paith

Croesi'r Paith: Diwrnodau 1 & 2

 

Wedi tamaid o ginio ar y diwrnod cyntaf byddwn yn gadael Esquel ar y Ruta 40, un o lonydd enwocaf yr Ariannin sy´n nadreddu am dros 5000 cilomedr ar hyd y ffin gyda Chile. Wedi rhyw 60 milltir bydd yr asffalt yn dod i derfyn a byddwn yn dringo dros y mynyddoedd er mwyn cyrraedd Afon Camwy - gwaredwr y Cymry rhag sychder Y Paith – ar yr ochr arall. Cawn synfyfyrio ar wacter anialwch Y Paith , cyn stopio am funud ar lethrau´r “Mynydd Hud”, ble bydd ein cerbyd yn rholio´n ôl i fyny´r bryn, wysg ei gefn. Yna, ymlaen at bentref Gualjaina, ble mae brodorion wedi bod yn byw ers ymhell cyn i´r Cymry gyrraedd. Fe setlwn am y noson yn ein gwesty cyfforddus , ble mae darpariaeth dda o lyfrau i´w mwynhau yn y llyfrgell, cyflenwad da o ddiodydd y tu ôl i'r bar, ystafell ymarfer corff a phwll nofio wedi ei wresogi. Mae hyd yn oed gwinllan i´w gael y tu cefn i´r gwesty, a blannwyd yn 2017 fel rhan o Lwybr Gwin Chubut.

 

Unwaith y bydd hi´n nosi, byddwn yn cerdded i mewn i´r pentref i gwrdd â hen ffrind i Jeremy sydd wedi agor bwyty Gaucho Archentaidd, a chawn gyfle i fwynhau un a'i brydau arbennig. Mae mwy o Gymraeg yn ei lyfr ymwelwyr nac o unrhyw iaith arall! Ar ôl swper, fe awn am dro at gyrion y dref, cyn gorwedd nôl ar lecyn o dir clustogog i fwynhau gwledd weledol – sêr Hemisffer y De, a´r llwybr llaethog yn disgleirio fel gwlith yn haul y bore. Drannoeth, byddwn yn codi´n fore ar gyfer diwrnod hiraf y daith. Byddwn yn treulio´r rhan fwyaf o´r siwrne (ar wahân i´r 50km olaf) oddi ar y ffordd, yn dilyn Afon Camwy wrth i´r Andes leihau y tu ôl i ni. Er mai dim ond 200 milltir sydd rhwng Gualjina ac Yr Allorau, ein cyrchfan nesaf, mae´r 200 milltir sy´n llawn ceunentydd, llosgfynyddoedd hynafol, fforestydd wedi'u ymgarregu, a phob math o fywyd gwyllt. Yn swyddogol, bydd ein siwrne heddiw yn mynd drwy´r anialwch, ond nid yw´r Paith yn anialwch fel y Gobi neu´r Sahara – mae´n rhannu ´r diffiniad gan fod llai na 200mm o law yn disgyn yn flynyddol.

​

Cyn i´r Andes ddechrau ffurfio, roedd yr ardal hon yn gartref i beth heddiw´n cael eu galw´n uwch-losgfynyddoedd. Tu 30 miliwn o flynyddoedd nol, roedd un ohonynt, a oedd yn mesur rhyw 30km mewn diamedr, wedi ffrwydro gan adael difrod a dinistr a graddfa sy´n anodd i´w ddychmygu heddiw. Yn dilyn hyn, fe greodd godiad yr Andes gan rymoedd tectonig ragor o losgfynyddoedd yn yr ardal. Heddiw, gyda holl rym ac egni´r llosgfynyddoedd wedi ei ddihysbyddu, mae´r tirwedd yn edrych fel cymysgedd rhwng Dyffryn Marwolaeth, Y Ceunant Mawr , Dyffryn y Cofebion a´r lleuad. Ers tragwyddoldeb, mae llifogydd lafa llonydd, coed ymgarregog a cheunentydd dyfnion wedi parhau yma fwy neu lai heb unrhyw ymyrraeth, ar wahân i gan y rhywogaethau Patagoniaidd sy´n galw´r lle´n gartref. Rhywogaethau fel y dylluan gorniog enfawr, yr hebog tramor, y pwma neu´r prinnaf ohonynt oll, y chinchillon, sy´n cael ei adnabod yn well fel Cwningen Cythreulig Camwy.

​

Heddiw, byddwn yn archilioo´r rdal hon yn ofalus, gan gamu´n ofalus i mewn i´w cheunentydd, edmygu´r cerfluniau hynafol ar waliau´r ogofau, chwilota am weddillion hen goedwifgoedd, a chiniawa ar lan yr afon. Gyda lwc, efallai y gwelwn ni´r chinchillon – 'dyn ni´n gwybod ble mae´n byw! Ar y ffordd i´r Allorau, byddwn yn mynd heibio pentref bychan, sef Cerro Condor, ble bydd plant lleol yn dangos esgyrn dinosoriaid, a´n tywys o gwmpas eu hysgol a´r pentref. Cawn bicnic mewn man addas ar ffordd acw. Gyda 50km yn weddill o´r siwrne, byddwn yn cyrraedd ffordd asffalt unwaith yn rhagor, cyn dilyn Afon Camwy nes cyrraedd Yr Allorau. Cawn bryd o fwy yn yr unig fwyty am 200km i bob cyfeiriad, cyn treulio´r noson mewn gwesty cyfforddus yng nghanol nunlle!

Croesi'r Paith: Diwrnodau 2 & 3

​

Wrth gwblhau ein taith ar draws Y Paith, byddwn yn dilyn Afon Camwy am 100km. Ar y ffordd drwy'r anialwch i'r dref nesaf, Dol y Plu, byddwn yn stopio mewn llawer o'r un llefydd a'r Cymryd arloesol dros 150 o flynyddoedd nol. Mae llawer o'r ffordd yn dilyn trywydd y gwladfawyr a deithiodd 600km (400 milltir) ar draws yr anialwch yn y dyddiau cynnar. Bu rhaid i´w wagenni ymdopi a llifogydd, newyn ac Indiaid ysbeilgar – roedd yn rhaid bod y caletaf a´r mwyaf stoicaidd oedd yn mentro taith o'r fath. Mewn un lle, ger man sy'n cael ei adnabod fel Rocky Trip, gorfodwyd y gwladfawyr i adael diogelwch glannau´r afon i ddringo llwyfandir, cyn ail-ymuno a´r afon rhai cilomedrau´n ddiweddarach.

​

Roedd yr unig ddisgynfa mor serth fel bo'r rhaid clymu'r ceffylau a´r gwartheg at gefn y wagenni, i'w atal nhw a'u heiddo rhag disgyn yn bendramwnwgl i ddyfnderoedd y ceunentydd oddi tano. Dyw'r olygfa o'r llwyfandir heddiw heb newid ers y dyddiau cynnar. Mae teilchion gwydr, hen ddarnau ôl olwynion wagen, hambyrddau tun a chroes yn nodi man hen fedd anhysbys yn amlygu ymdrechion y Cymry cynnar, ac yn codi ias yng ngwres y Paith. Buasai'r eneidiau mentrus, gwydn hyn yn siŵr o werthfawrogi dehongliad tawel o Hen Wlad Fy Nhadau er cof amdanynt. Os bydd amser gennym, byddwn yn crwydro rhyw fymryn oddi ar y ffordd, i weld pertoglyffau, sef cerfwaith trawiadol yn y graig sydd wedi drysu´r anthropolegwyr am ddegawdau.

​

Wrth ddringo drwy'r anialwch o Ddôl y Plu, byddwn yn troi ffwrdd am Ddyffryn y Merthyron (sydd weithiau´n cael adnabod fel Dyffryn William neu Kilkein), y safle anhysbys blu llofruddiwyd tri o chwilotwyr aur Cymraeg gan frodorion o lwyth Cacique Foyle yn 1884. Dyma'r tro cyntaf i unrhyw helynt ddigwydd rhwng y Cymry a brodorion yr ardal, sef y Tehuelche.

​

​

Gwelwn y man ble neidiodd Malacara, ceffyl enwog John Daniel Evans a chlywn holl fanylion y tri Chymro yn ffoi am eu bywydau'r holl ffordd o Gualjaina i'r llecyn unig hwn ble daethant wyneb yn wyneb â'r creawdwr mawr. Saith deg o filltiroedd yn nes at yr arfordir, dilynwn y ffordd at argae Amaghino, camp enfawr a gwblhawyd ym 1963 er mwyn atal arferiad cyson Afon Chubut o orlifo ac yn sgil hynny dinistrio cnydau. ysgolion, capeli ac eiddo a phapurau personol. Tu hwnt, 50 kilometr o anialwch dinod hyd nes cyrraedd o'r diwedd Y Wladfa, ble ymadawn a´r brif ffordd er mwyn dilyn y caeau at Dir Halen, ble dilynwn y 30kilometr nesaf gan ryfeddu at y ffosydd dwr a osodwyd gan y Cymry cyntaf ac sy'n parhau i gael eu defnyddio hyd heddiw.

bottom of page