top of page

Does neb yn gwybod mwy...

Hwyl yr Å´yl 

Os hoffech ddod i Batagonia i ddathu un o'r Gwyliau Cymreig, dyma'r prif rai:

​

*Cafodd y teithiau serennig ei datblygu gan Welsh Patagonia. Tan i ni siarad gyda'r trefnwyr a gwneud trefniadau gyda'r gymuned Gymreig, doedd neb y tu hwnt i Batagonia yn ymwybodol o'r digwyddiadau hyn. Wrth gwrs, mae gan Welsh Patagonia berthynas arbennig gyda threfnwyr y gwyliau hyn, ac rydym yn aml yn cyd-weithio gyda'r  Gwyliau i drefnu rhaglenni. A gallwch gymryd yn ganiataol y bod unrhyw un sydd yn teithio gyda Welsh Patagonia yn derbyn sylw arbennig gan y trefnwyr.

​

Patagonia Celtica*: Fel arfer yn cael ei gynnal o gwmpas diwedd mis Chwefror. Mae'r digwyddiad yn rhedeg o ddydd Gwener hyd ddydd Sul gyda rhai digwyddiadau ychwanegol yn Nhrevelin ac Esquel; maes gyda sawl llwyfan a phebyll arbenigol. Artistiaid o'r rhan fwyaf o'r gwledydd Celtaidd, yn enwedig Galisiaid; llawer iawn o hwyl a chyfle i gymdeithasu gyda'r cantorion; llety yn yr Andes wedi ei rannu rhwng Esquel a Threvelin.

​

Eisteddfod Trevelin a Phen-blwydd Pleidlais Ysgol 18*: Mae'r digwyddiad yma fel arfer yn cael ei gynnal ar y penwythnos sydd agosaf at y 30ain o Ebrill, sef pen-blwydd pleidlais 1902. Mae rhagbrofion yr Eisteddfod yn cael eu cynnal ar foreau Iau a Gwener, a'r cystadlu'n digwydd ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn. Gŵyl ddwyieithog (Cymraeg a Sbaeneg), gyda manylion y cystadlu'n cael eu cyhoeddi ymhell o flaen llaw, croeso i unrhywun gystadlu; mae sawl yn cystadlu o´r Gaiman, Trelew a Phorth Madryn; swper wedi i'r Eisteddfod gloi ar nos Sadwrn, Cymanfa Ganu ar ddydd Sul, seremoni yn Ysgol 18 y tu allan i Drevelin i ddathlu´r bleidlais ar Ebrill 30ain, a chyngerdd min-nos, digwyddiad pwysig i'r holl dref, nid y gymuned Gymreig yn unig; llety yn rhanbarth yr Andes yn Nhrevelin.

​

Gŵyl y Glaniad: diwedd Gorffennaf – 5 noson ym mhorth Madryn gydag alldeithiau i ddigwyddiadau Gŵyl y Glaniad yn Y Gaiman a Trelew, cymryd rhan lawn yn nigwyddiadau Porth Madryn; uchafbwynt y tymor bywyd mor, gyda morfilod, morloi eliffant, morloi clustiog a phengwiniaid; Mae dathliadau pen-blwydd Porth Madryn hefyd dros yr un cyfnod, felly mae nifer helaeth o ddigwyddiadau cysylltiedig; bydd wastad Te Cymreig ar gael; cyfle i sgïo, eira-fyrddio neu eira-gerdded yn Esquel.

​

Eisteddfod y Bobl Ifanc (Eisteddfod del Juventud): Canol mis Medi yn Y Gaiman – yn debyg o ran y trefniadau i Eisteddfod Chubut ond ar raddfa lai.

​

Eisteddfod Chubut: Fel arfer yn ystod y drydedd wythnos ym mis Hydref – Yr ŵyl Gymraeg ddiwylliannol fwyaf yn y Wladfa Gymreig, gyda nifer o dwristiaid rhyngwladol; fei chynhelir yn Nhrelew; gorymdaith yr Orsedd ar fore Iau yn Y Gaiman ac wedyn seremoni wrth Gerrig yr Orsedd; rhagbrofion ar ddechrau´r wythnos ac wedyn y brif ŵyl ar ddyddiau Gwener a Sadwrn; gŵyl ddwyieithog (Cymraeg a Sbaeneg) gyda'r testunau'n cael eu cyhoeddi ymhell o flaen llaw; croeso cynnes i bawb i gystadlu; llawer o gystadleuwyr o Esquel, Trevelin a Phorth Madryn, Cymanfa Ganu ar y Sul ac weithiau digwyddiadau codi arian ar gyfer Ysgol yr Hendre ar y Sul; uchafbwynt y tymor bywyd môr o gwmpas Bae Newydd, llety yn ardal Esquel yn yr Andes.

​

Pen blwydd Trevelin*: – yn ystod wythnos olaf mis Tachwedd – taith gerdded neu reid o Ysgol 18 at Graig Goch, sef y fan o ble y gwelwyd Cwm Hyfryd am y tro cyntaf yn 1865, yn dilyn asado neu bicnic a noddir gan dref Trevelin a Chymdeithas y Rifleros; gorymdaith yn y dref ar yr 25ain a chyngerdd Cymreig min-nos; llety yn Nhrevelin yn yr Andes; tywydd hafaidd bendigedig.

bottom of page