top of page

Does neb yn gwybod mwy...

Salfe Treftadaeth Byd UNESCO

Península Valdés

Pob hyn a hyn bydd un o'r cewri'n cael eu herio gan un o'r llanciau, a dyna pryd bydd pethe'n dechrau mynd yn draed moch! Gyda lwc, cawn weld y tarw'n siarsio, cyn i'r ddau baffiwr boliog fynd yn benben. Ynghyd a'r morloi eliffant, mae Penrhyn Valdez hefyd yn adnabyddus em ei fywyd morol, ei nythfeydd adar, ac am y digwyddiadau dychrynllyd hynny sydd i'w gweld ar draeth gogledd-orllewin y Penrhyn, sef Punta Norte. Yma, mae haid o leiddiaid, neu orca, wedi dysgu sut i gipio pengwiniaid a morloi ifanc sy´n camu allan i´r dyfroedd bas i ddysgu nofio, o gwmpas diwedd yr haf bob blwyddyn. Dyma'r unig fan yn y byd ble gwelir y fath ymddygiad. Wedi cinio yn y gwesty, byddwn yn parhau gyda´n alltaith o gwmpas y Penrhyn gydag ymweliad a nythfa o bengwiniaid Magellan, yng Nghaleta Valdez. Yna byddwn yn mynd am Borth Pyramides, ble cawn fwynhau diod oer neu goffi ar y traeth wrth wylio'r morfilod yn y bae. Cawn benderfynu ar y pryd os yw'r tywydd yn ddigon addas i fynd i gymryd trip gwylio morfilod (nid yw wedi ei gynnwys yn y pris).

Yn ystod ein taith ar draws y Penrhyn, cawn hefyd weld armadilod, llwynogod coch a llwyd, rheaod, gwanacos (math o geirw mawr) ynghyd ag amrywiaeth o adar gwyllt, gan gynnwys adar ysglyfaethus mawr. Er mawr dicter y ffermwyr,y defaid a'r pengwiniaid lleol, mae'r pwma wedi cael ei ail-gyflwyno mewn rhai llefydd – gyda lwc, cawn weld un. Wedi dychwelyd i Borth Madryn, byddwn yn barod i dorri syched yn nhafarn Mr. Jones, sydd wedi ei leoli'n gyfleus iawn yng nghanol y dref.

Mae heddiw'n gyfle arbennig i gael blas ar ehangder Patagonia. Bydd hi'n ddiwrnod hir a blinedig, ond bydd hi hefyd yn ddiwrnod gwefreiddiol a bywiogus. Wedi gadael Porth Madryn yn fore, byddwn yn teithio tuag at y gogledd ar hyd Traeth Doradillo, gan gadw llygad allan am forfilod. Byddwn yn gyrru dros y culdir ac i mewn i'r Penrhyn, cyn treulio ychydig o amser yn y ganolfan ymwelwyr gwych. Yna, fe awn alla ar draws y Penrhyn, gan deithio tua 70km ar hyd llwybr llychlyd tuag at gornel de-ddwyreiniol y Safle Treftadaeth Byd UNESCO hwn. Mae goleudy a fferm ddefaid i'w gael ym Mhunta Delgada, ac mae rhai o siediau´r fferm wedi cael eu troi'n westy bychan. Ond mae'r gwir drysorau i'w gweld y tu hwnt i'r goleudy – traeth preifat sy'n llawn dop o forloi eliffant. Dim ond o'r gwesty y ceir mynediad at y traeth, a dyma un o'r llefydd gorau yn y byd i fwynhau ar anifeiliaid anferthol hyn. Eisteddwn ryw ychydig fedrau uwchben y traeth i fwynhau'r sioe, wrth i rai o'r gwrywod trymaf ymladd dros eu harimau, a chawn gyfle i gyfnewid nodiadau ar bwy neu beth sy'n dod i feddwl wrth edrych ar y bwystfilod swnllyd.

bottom of page