top of page
Search
  • Writer's pictureJeremy Wood

Y Nodyn Coll - Bydd Myrdd o Ryfeddodau




Mae Cymry Patagonia wedi cofleidio bron pob un o’r arferion a ddaeth dros yr Iwerydd gyda’u cyndeidiau Cymreig, gan gynnwys yr Eisteddfod, y Capel a’r traddodiad emynol. Mae mwyafrif yr emynau a genir mewn capeli ym Mhatagonia heddiw yn rhai a fyddai’n gyfarwydd i’r grwpiau cyntaf o ymfudwyr a gyrhaeddodd yn ystod ail hanner y 19eg ganrif. Wrth gwrs, daeth rhai yn ffefrynnau cadarn ym Mhatagonia, tra bod eraill wedi mynd allan o ffasiwn yng Nghymru. Un emyn adnabyddus ar y pryd, a oedd yn boblogaidd yng Nghymru ac ym Mhatagonia, oedd ‘Bydd Myrdd o Ryfeddodau’. Roedd hwn yn emyn Pasg a hefyd yn cael ei adnabod fel "Yr Emyn Angladd Genedlaethol" yng Nghymru, oherwydd ei fod yn cael ei ganu byth a beunydd gan alarwyr.

Er iddo gael ei ganu gan y dorf wrth iddynt annerch Cadair Ddu Hedd Wyn yn Eisteddfod Penbedw 1917, mae’n ymddangos bod yr emyn wedi mynd yn angof ac mae’r mwyafrif o gyfeiriadau at ei ddefnydd sydd i’w canfod ar y we yn dyddio yn ôl dros ganrif.


Ond mae hynny ar fin newid.....


Daeth y Rhuthr Aur i’r Wladfa ym 1883 pan gyrhaeddodd criw newydd o wladfawyr Cymreig o Awstralia gyda straeon o bobl yn gwneud eu ffortiwn. Aeth nifer o’r Cymry allan ar alldeithiau i chwilota am y metel gwerthfawr, ac fe gyrhaeddodd un criw bach cyn belled â’r Andes pell, wedi cychwyn o Arfordir yr Iwerydd sawl wythnos ynghynt. Roedd y grŵp hwn o bedwar o ddynion ifanc yn bryderus dros ben pan glywsant fod yno griw o frodorion rhyfelgar yn crwydro’r ardal wedi iddynt gael eu herlid gan lywodraeth yr Ariannin, felly roedd rhaid troedio’n ofalus. Hyd yn hyn, bu'r berthynas rhwng y Cymry a'r brodorion yn un gyfeillgar a llesol i'r ddwy ochr. Yn wir, gellid dweud mai dyma’r unig ddigwyddiad yn hanes cyfandiroedd America ble nad oedd y gwladfawyr Ewropeaidd wedi lladd y boblogaeth frodorol.

Fodd bynnag, ar ôl bron i 5 mis o deithio roedd y pedwar dyn, Richard Davies (Llanelli), John Parry (Dinbych), John Hughes (Caernarfon) a John Evans (Aberpennar), yn amau nad oeddent bellach yn ddiogel felly penderfynwyd ei throi hi am adref, dros 400 milltir i ffwrdd. Yn ystod y deuddydd cyntaf, bu rhaid iddyn nhw reidio’u ceffylau drwy ganol yr afon, fel na fyddent yn gadael unrhyw lwybrau i’r brodorion eu dilyn, a bu'n rhaid iddynt glymu eu hunain i’w ceffylau pan oedd blinder yn eu llethu. Unwaith yr oeddynt yn teimlo’n gymharol ddiogel, ymlacient, cadwasant eu harfau a theithiasant ar hyd lan Afon Camwy, sef prif afon Y Wladfa. Ond doedd y brodorion byth yn bell i ffwrdd ac o gwmpas canol dydd ar y 3ydd o Fawrth 1884, ymosodasant, gan ladd tri o'r dynion. Llwyddodd un dyn, John Evans, i ddianc, diolch i barodrwydd ei geffyl i neidio i lawr ceunant serth lle na allai ceffylau’r brodorion ddilyn.

Unwaith iddo gyrraedd yn ôl i'r arfordir, dywedodd yr hanes i gyd a daeth 43 o ddynion at ei gilydd i chwilio am y drwgweithredwyr. Ond eu dyletswydd gyntaf oedd ymweld â safle'r ymosodiad i weld beth oedd wedi digwydd i Richard Davies, John Parry a John Hughes. Ni allai dim bod wedi eu paratoi ar gyfer yr olygfa a oedd yn eu disgwyl Roedd y tri wedi cael eu lladd a'u rhwygo'n ddarnau gan y brodorion, a'u gweddillion wedi eu gwasgaru. Dan arweiniad un o sylfaenwyr Y Wladfa, Lewis Jones, casglodd y grŵp yr hyn oedd yn weddill o’r dynion a’u claddu ynghyd. Yna canasant.


Bydd myrdd o ryfeddodau

Ar doriad boreu wawr. Pan ddelo plant y tonau Yn iach o'r cystudd mawr, Oll yn eu gynau gwynion, Ac ar eu newydd wedd, Yn debyg idd eu Harglwydd Yn d’od i'r lan o'r bedd.

Ar ôl chwilota’n ofer am y llofruddion, dychwelsant i safle’r gyflafan, dim ond i ddarganfod bod gweddillion y tri dyn wedi'u datgladdu a'u gwasgaru unwaith yn rhagor. Felly claddasant y tri unwaith eto, ac unwaith eto, canasant. Ychydig iawn o’r gwladfawyr oedd wedi dod ar draws y fath erchyllter o’r blaen. Roedd y gymuned fach a chlos hon wedi dioddef ergyd farwol. Roedd yr emosiynau a lifai drwyddynt wrth iddynt ganu yn ei gwneud hi bron yn amhosib gorffen yr emyn.

Hyd heddiw mae’r tri dyn wedi eu claddu dan o dan dwmpath pridd yn y fan unig ac anial hon, rhyw 10 milltir o’r brif ffordd, ac mae cofeb farmor wedi’i chodi i goffau digwyddiadau’r diwrnod ofnadwy hwnnw.

Treuliais beth amser gyda Robat Arwyn yn ystod ei ymweliad â’r Wladfa ac eglurais iddo’r hanes y tu ôl i ganu Bydd Myrdd o Ryfeddodau yn Rhyd y Beddau. Roedd gennyf recordiad o gôr cymysg Y Gaiman yn canu’r darn flynyddoedd lawer yn ôl, ond roedd y ddelwedd o’r dynion hynny’n canu’r emyn a meddwl am y brwdfrydedd a’r awch yn eu lleisiau wedi aros gyda fi. Teimlais ei fod yn hollbwysig cynhyrchu fersiwn newydd o’r emyn i adlewyrchu’r angerdd a’r drasiedi, ac mai dim ond Côr Meibion Cymreig allai ymateb i’r her hon. Cytunodd Robat yn garedig i drefnu amser i ysgrifennu trefniant Côr Meibion ar gyfer yr emyn, i anrhydeddu’r tri Chymro a lofruddiwyd yn ogystal â’r 43 Cymro a ganodd dros eu gweddillion. Ar hyn o bryd, nid yw'r emyn yn cael ei berfformio gan gorau meibion yn unman. Mae'r cyfansoddiad canlyniadol yn talu teyrnged i drychineb y digwyddiad ac yn cynhyrfu'r enaid, fel y gwna pob emyn angladd sydd werth ei halen.

Dewiswyd Côr Meibion Cymry Llundain felly i roi’r perfformiad cyntaf o gampwaith newydd Robat Arwyn. Y gobaith yw, unwaith y bydd yr emyn hwn wedi’i glywed gan gorau meibion Cymreig eraill, y byddant yn manteisio ar y cyfle i ganu am yr hen ffefrynnau Cymreig hynny - marwolaeth a’r Wladfa - gydag emyn na all ei hanes fethu â chyffroi hyd yn oed y galon galetaf.

Bydd y daflen gerddoriaeth ar gael gan Curiad, sef cyhoeddwyr Robat Arwyn, ac mae wedi Robat cytuno’n garedig iawn y bydd yr holl elw o werthiant y daflen gerddoriaeth yn mynd i Ysgol y Cwm yn Nhrevelin.



Meddai Robat Arwyn: “Roedd ysgrifennu trefniant newydd o emyn sy’n arwyddocaol yn hanes y Cymry ym Mhatagonia yn anrhydedd ac yn her. Roedd yn gyfle i ddiolch am y croeso cynnes iawn a roddwyd i mi a’m teulu ar ein hymweliad i’r Wladfa yn 2018, ac roeddwn wedi mwynhau’r her o ail-ddehongli’r emyn-dôn wreiddiol ar gyfer Côr Meibion cyfoes. Rwy’n wirioneddol edrych ymlaen at glywed y darn yn dod yn fyw ar lwyfan wrth iddi gael ei chanu gan Gôr Meibion go iawn.”

16 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page