top of page
Search
Writer's pictureJeremy Wood

Y Wladfa - Yn bendant y lle i fod, nawr ac yn y dyfodol

Mae Patagonia gyfan wedi bod dan glo ers rhai misoedd bellach a, gyda nifer o achosion yn digwydd yng nghymdogaethau tlotaf Buenos Aires, roeddem yn poeni mai dim ond mater o amser fyddai hi cyn i'r firws Covid-19 wneud ei ffordd tua’r de. Ond mae popeth i lawr yma yn iasol dawel ar hyn o bryd. Does dim marwolaethau o'r firws wedi bod yn unman ym Mhatagonia, a dim ond llond llaw o achosion sydd wedi bod.  Gyda lwc, mae pob un ohonynt bellach wedi gwella. Yma yn nhrefi Cymreig yr Andes, nid oes yr un achos wedi bod hyd yn hyn.


System lywodraeth ffederal sydd gan yr Ariannin, ac roedd y pwysigion yn Buenos Aires, sydd bron i 2,000 cilomedr i'r gogledd, wedi cau’r ffiniau a chyhoeddi clo caled a chynnar yn sgil y firws. Ond yma yn y Wladfa, yn nhalaith Chubut, mae gennym ni ein llywodraeth ein hunain ac fe wnaethon nhw ein cloi i lawr hyd yn oed yn dynnach. Tan y penwythnos diwethaf, doedden ni ddim yn cael teithio mwy na 500 metr o'n cartrefi am unrhyw reswm heblaw am siopa a dibenion meddygol, ac ni chaniatawyd unrhyw fath o ymgynnull teuluol. Doeddwn i ddim hyd yn oed yn cael gyrru'r pellter byr (25 cilomedr) o Esquel i Drevelin, ble treuliaf y rhan fwyaf o fy amser yn codi arian ar gyfer ein hysgol Gymraeg, Ysgol y Cwm.


Mae'n ymddangos bod y strategaeth hon, am y tro, wedi gweithio'n dda iawn. Mae gan y Wladfa un fantais fawr dros lawer o leoliadau eraill yn y byd - mae'n fawr iawn, gyda ‘chydig iawn o drefi a phentrefi, a rheiny wedi'u gwasgaru. Dych chi ddim yn dod yn agos at lawer o bobl yn y rhannau hyn. Pe baech yn lledaenu poblogaeth Patagonia, mae'n debygol y gallem gadw pellter o ryw filltir rhwng pob unigolyn! Mae’r Wladfa tua 10 gwaith maint Cymru, neu bron i hanner maint California, ond gyda dim ond un wythfed o'r boblogaeth. Pe bai gan Manhattan yr un dwysedd poblogaeth ac sydd gennym ni fan hyn, byddai llai na hanner cant o bobl yn byw yma. Oni bai bod y defaid yn dechrau cludo’r firws, gallwn gysgu'n dawel am y tro.


Rydym ar drothwy’r gaeaf yma ym mynyddoedd hardd yr Andes, ac rydyn ni fwy na 600 cilomedr i ffwrdd o dref o unrhyw faint. Mae diwrnodau byr a’r ffyrdd rhewllyd, gwael yn cadw hyd yn oed y twristiaid mwyaf ymroddedig i ffwrdd. Mae'n debyg na fydd ein tymor sgïo, sydd fel arfer yn dechrau ym mis Gorffennaf, yn digwydd eleni, felly prin iawn fydd y nifer o ymwelwyr yma dros y gaeaf. Ond mae'r diffyg twristiaeth ym Mhatagonia, ardal sy'n dibynnu cymaint ar ymwelwyr, yn dalcen caled i lawer o deuluoedd . Mae canran helaeth o economi’r Ariannin yn anffurfiol ac felly mae llai o deuluoedd mewn sefyllfa i hawlio cymorth ariannol i leddfu’r caledi.


Yn Buenos Aires, ble mae llwgrwobrwyo a llygredd gwleidyddol yn gyffredin, mae’r rhai sydd mewn grym wedi dod yn arbenigwyr ar berswadio sefydliadau a llywodraethau rhyngwladol i roi benthyg symiau enfawr o arian iddynt, ac yna methu ar y taliadau hynny. Dyma’n union ddigwyddodd yr wythnos diwethaf, gyda’r llywodraeth bresennol. O ganlyniad, mae hi’n yn ddrud iawn i’r Ariannin fenthyg arian ac mae hyn yn golygu nad yw arian yr Ariannin, y Peso, o unrhyw werth y tu allan i’r wlad, yn enwedig o ystyried y symiau enfawr sy’n cael eu hargraffu gan y llywodraeth ar hyn o bryd.


Tan yn weddol ddiweddar, y papur gyda’r gwerth uchaf oedd y papur 100 peso, ond ymhen ychydig o amser bydd papur pum mil peso yn mynd i gylchrediad cyhoeddus. Mae'r llywodraeth ganolog wedi bod yn gwario ei chronfeydd wrth-gefn o ddoleri trwy gryfhau'r peso ac, o ganlyniad, wedi atal pobl yma rhag prynu doleri. Mae’r llywodraeth hyd yn oed wedi mynd cyn belled â gosod treth o 30% ar unrhyw bryniannau cardiau credyd y tu allan i'r Ariannin.


Canlyniad yr holl jyglo ariannol hyn yw bod pawb eisiau prynu doleri i guddio o dan y gwely (does neb yn ymddiried mewn banciau yma). Mewn tri mis yn unig, mae'r gyfradd gyfnewid swyddogol wedi aros fwy neu lai yn llonydd ar 60 peso i'r ddoler, tra bod y gyfradd answyddogol wedi saethu fyny i dros 130. Mae’r  gwahaniaeth hwnnw yn fendith i dwristiaid. Mae’r prisiau lleol am nwyddau a gwasanaethau Archentaidd wedi aros fwy neu lai’r un fath, tra bod eu pris i rywun sy'n prynu gyda doleri wedi haneru. Gallaf brynu ffiled o stecen Hereford am $5, potel dda iawn o Malbec am $2, tanwydd am 50c y litr ac, wrth edrych ar ochr arall y geiniog, unrhyw gynnyrch cyfrifiadurol Apple am o leiaf ddwywaith ei bris yn yr UD.

Hefyd, ynghyd â'r ffaith nad oes gennym unrhyw fosgitos, dengue na zika yma yn Andes y Wladfa, mae gennym rai o'r golygfeydd mwyaf syfrdanol yn y byd, mewn lleoliadau anial a phellennig.  O ganlyniad, gallwn fod yn reit hyderus y bydd twristiaeth a buddsoddiad yn dychwelyd gyda chlec, cyn gynted ag y bydd yr hediadau'n ailgychwyn.

A phan fydd hynny’n digwydd, gallwn ailagor ein hysgol Gymraeg, dod â'r athrawon Cymraeg yn ôl o Gymru, a dychwelyd at groesawu twristiaid Cymreig o bob cwr o'r byd unwaith eto.


18 views0 comments

Recent Posts

See All

Comentários


bottom of page