top of page

Does neb yn gwybod mwy...

Parc Cenedlaethol Los Alerces

O´r Pasarela, byddwn yn mynd ar grwydr drwy´r fforest law ar lan Lago Menendez, gan gymryd gofal i beidio ag aflonyddu´r baeddod gwyllt neu´r pwmas sy'n rhedeg yn rhydd drwy goedwigoedd trwchus y Parc. Mae'r fforest law tywydd oer hon ('Valdivian rainforest') yn gartref i sawl trysor annisgwyl, o goed Alerce tal, hynafol sydd dros 4000 o flynyddoedd oed i folgodogion (marsupials) pitw sy´n mentro allan o'u cuddfannau´n nosol. Yn goron ddisglair, gwyrddlas, gwyn i hyn oll y mae rhewlif Torrecillas, sydd i'w weld o lan Llyn Menendez. Mae´r golygfeydd o´r copa yn ymestyn at orwelion y Cefnfor Tawel. Mae Parc Cenedlaethol Los Alerces yn gorchuddio ardal o ryw 2,630 o gilomedrau sgwâr,ac mae´n adnabyddus am ei fforestydd law tymherus (sydd ddim ond i'w cael mewn 7 rhanbarth ledled y byd), ei afonydd, llynnoedd, rhewlifoedd, ffosilau morol, a´r boblogaeth fwyaf o goed Alerce yn yr Ariannin.

 

Mae´r Parc yn cynnal amrywiaeth eang o fywyd gwyllt, gan gynnwys y condor Andeaidd, y pwma, baeddod gwyllt, mincod, yr Huemul (math o garw swil a gwinglyd) a math o folgodog cynhenid, sef yr oposwm Colocolo. Caiff ei restru gan Conservation International fel un o 34 Canolfan Bioamrywiaeth y Byd (sef llefydd hynny ble ceir amrywiaeth cyfoethog o fywyd gwyllt sydd dan fygythiad); Mae hefyd yn Warchodfa Biosffer a Safle Treftadaeth Byd UNESCO, tra bod y World Resource Institute a´r World Wildlife Fund yn ei restru fel Eco-ranbarth Global 200. Mae´r Warchodfa Biosffer UNESCO Andino Norpatagonica , sy´n cynnwys Parc Los Alerces ynghyd a gwarchodfeydd yn Chile, bron ddwywaith maint Cymru.

Fe sefydlwyd y Parc Cenedlaethol yn ystod y ´'30au er mwyn gwarchod y goeden Alerce, ac yn 2017 cafodd ei wneud yn Safle Treftadaeth Byd UNESCO. Mae'r ffordd at y parc yn mynd heibio Laguna Terraplein, ble mae elyrch, fflamingos a gwyddau´n ymgynnull a ble, o dro i dro, ceir eryrod a chondoriaid yn ysglyfaethu ar gyrff y da byw hynny sydd yn gorwedd yn farw ar lannau'r llyn. Wrth agosáu at y parc, byddwn yn gweld y llethrau llosgedig ac yn clywed am y tannau difrifol a ddoth a difrod mawr i´r ardal, wedi i fath o fambŵ flodeuo´n drwchus am y tro cyntaf mewn hanner canrif, yn 2013. Byddwn yn gyrru drwy bentref Villa Futalaufquen, ble ysgrifennodd Richard Llewelyn y dilyniant i´w lyfr “How Green Was My Valley”, sef “Up, Into the Singing Mountain” yn ystod y '50au. Byddwn wedyn yn dilyn glan Llyn Futalaufquen ('Llyn Mawr' yn iaith y Mapuche, Llyn Padarn yn Gymraeg) at ddyfroedd gwyrddlas Afon Arrayanes ac yna dros bont y Pasarela hebio Lago Verde (Llyn Peris yn Gymraeg).  Mae´r golygfeydd alpaidd ar y daith i´r Parc o Drevelin neu Esquel yn siŵr o'ch syfrdanu a'ch swyno!

bottom of page