top of page

Does neb yn gwybod mwy...

 Teithlenni

Cyffro ac Amrywiaeth ar Bob Taith

Mae ein holl deithiau yn y Wladfa yn para pythefnos, ac mae pob un yn cynnwys nifer o elfennau sylfaenol, gan gynnwys rhai sydd yn benodol i'r Å´yl a ddathlir ar y pryd, a rhai sy'n benodol i amser y flwyddyn.

Hwyl yr Å´yl

Mae digonedd o ddewis os hoffech chi dreulio amser yn un o wyliau'r Wladfa. 

Taith Profiad Cymreig

Taith hanesyddol sy'n dilyn olion traed yr arloeswyr.

Taith Amaeth

Taith sy'n cynnwys ymweliadau â 

ffermydd Cymreig ac Archentaidd.

Taith i'r Teulu

Taith sydd wedi ei drefnu'n arbennig ar gyfer teuluoedd.

A gan eich bod yma, mae gwledd o deithiau, gwibdeithiau a digwyddiadau eraill y gallwch gymryd mantais ohonynt, gan gynnwys ein gwibdeithiau arbennig sy’n eich cludo i lefydd nad yw twristiaid eraill yn eu gweld gan gynnwys:

 

  • Dringo at Rewlif Torrecillas,

  • Teithio o fewn uwch-losgfynydd

  • Teithio'r Carratera Austral yn Chile

  • Cwrdd â'r dinosoriaid

  • Arnofio ar Afon Rivadivia

  • Profi ffordd Gwin Chubut

 

 

  • Ynghyd a gweithgareddau mwy adnabyddus, megis:

  • Gwylio Pengwiniaid a Morfilod

  • Marchogaeth

  • Trecio (yn ochr orllewinol y Wladfa)

  • Rafftio

  • Pysgota Plu

  • Sgïo ac eira-gerdded

 

Cofiwch fod ein tymhorau wyneb i waered yn Hemisffer y De. Mae'r haf rhwng mis Tachwedd a mis Chwefror, tra bo'r gaeaf rhwng mis Mehefin a mis Awst.

​

 Faint mae hyn i gyd yn ei gostio?

Y cwestiwn pwysicaf i'r rhan fwyaf o bobl. Yn gyntaf, ‘dyn ni’n prisio popeth mewn Doleri, gan fod y rhan fwyaf o'n darparwyr yn gosod eu prisiau ar y gyfnewidfa rhwng y Peso Archentaidd a'r Ddoler.  Yn 2022, buasai teithlen pythefnos mewn cerbyd 4x4 moethus a modern, gan deithio tua 3000km ac ymweld â'r holl lefydd o ddiddordeb Cymreig, ar gyfer dau gwpl, yn costio

US$ 3,400 y person (tua £2,600) gan gynnwys yr holl lety, trafnidiaeth, ffioedd mynediad, a dros hanner eich prydau bwyd. Mae prisiau yn amrywio yn ôl y tymor, ac mae chwyddiant blynyddol yn golygu bod prisiau'n codi o oddeutu 15% y flwyddyn.

Cerbydau 4x4

Moethus

Maint y Grŵp

Croesi'r Paith

Teithio Mewn Steil

Byddwch Yn Barod

bottom of page