top of page

Does neb yn gwybod mwy...

Ein Llyfrgell

Mae´r ffilmiau i gyd wrthi'n cael eu hastudio'n fanwl er mwyn gwneud cofnodion hanesyddol ohonynt drwy drawsgrifio´r trac sain, eu cyfieithu i Sbaeneg ac i Saesneg, a chreu isdeitlau. Yna, mae manylion nholl olygfeydd y ffilm yn cael eu nodi er mwyn adnabod y bobl a'r llefydd. I gyflawni hyn, mae'n rhaid teithio i gartrefi rhai o drigolion hyn y Wladfa, gan ddangos i ffilmiau iddynt a’u holi am y bobl a'r llefydd. Yna, mae crynodeb o'r golygfeydd yn cael ei gynhyrchu, a chaiff y ffilmiau eu dosrannu gan dalu sylw penodol at y bobl a'r llefydd. Yn aml iawn darganfyddir llawer o wybodaeth gefndirol sydd ddim o reidrwydd yn amlwg wrth wylio´r ffilm yn arwynebol.

Er enghraifft, yn un o’r ffilmiau o 1962, dangoswyd hysbysebion o bapur newydd o´r 19eg ganrif a oedd yn annog y Cymry i ymfudo i Awstralia ac i Ogledd America. Ar waelod y tudalennau hyn roedd rhan o hysbyseb arall i´w gweld, nad oedd yn cael ei grybwyll yn y ffilm,  oedd yn cychwyn gyda´r geiriau “Bydd y llong Halton Castle…”. Wrth gwrs, fe wnaethom adnabod yr enw yma – roedd yn hysbyseb i ymfudo i Batagonia! Roedd y Halton Castle yn fod i gludo ymfudwyr o Lerpwl, ond pan fethodd ag ymddangos yn Lerpwl mewn pryd bu rhaid i'r Gymdeithas Ymfudo drefnu llong arall, sef y Mimosa. Doedd y BBC heb sylwi ar yr elfen bwysig hon o hanes Y Wladfa.

Hysbyseb ar gyfer yr 'Halton Castle'

Gan barhau gyda'r un thema, a chysylltu dogfen o'n llyfrgell gyda´r llong hon – mae sawl dogfen gennym o´r Senedd Brydeinig, gan gynnwys gohebiaeth rhwng gwahanol adrannau o'r Llywodraeth yn Llundain a chynrychiolwyr Llywodraeth Prydain ym Muenos Aires rhwng 1865 ac 1902. Mewn llythyr wedi ei ddyddio Gorffennaf y 25ain 1865, gan Edward Thornton ym Muenos Aires at y Iarll Russell (Y Gweinidog Tramor ar y pryd, cyn cael ei benodi'n Brif Weinidog), mae Thornton yn rhoi adroddiad manwl o ymweliad Lewis Jones a Love Jones Parry yn ystod misoedd olaf 1862. Mae Thornton yn hefyd yn dweud yn ei lythyr: “about 250 Welshmen left England in April last, for New Bay, where they should have arrived by this time”. Mae dau beth yn dod yn amlwg o hyn: nad oedd Thornton yn ymwybodol bod y daith wedi ei ohirio, a hefyd fod y Mimosa yn cludo 100 o ymfudwyr yn llai na'r hyn yr oedd wedi ei gynllunio'n wreiddiol. Ond beth sy´n ddifyr yw bod y Prydeinwyr ym Muenos Aires – ynghyd a'r Archentwyr, gallwn dybio – yn gwybod faint o bobol yr oeddynt yn disgwyl  yn y Halton Castle.  Cafodd y wybodaeth yma ei roi i gynrychiolwyr Llywodraeth Prydain ym Muenos Aires gan y Gymdeithas Ymfudo yn Lerpwl.

Mewn adroddiad diweddarach i Fandariniaid yn Llundain, y tro yma gan Mr Francis Clare Ford ym Muenos Aires ac wedi ei ddyddio Ebrill 22ain 1866, dywedir:

 

“Owing, however, to the ship not arriving at Liverpool on the day fixed for her departure, the emigrants, who were a set of fine able-bodied men, and well adapted for the service they were embarking on, lost patience and returned to their native homes. The President of the Society, a Welsh gentleman, Mr. D. Jones, unwilling that the scheme should fail on account of this untoward event, collected together a new set, who finally started for the east coast of Patagonia, on the 31st of May, 1865. The composition, however, of this fresh batch of colonists was very defective, and far inferior to the original one, and to this circumstance must mainly be ascribed the signal failure that has hitherto attended their movements. Of the 130 souls who embarked on the “Mimosa,” on the 31st of May, one-third only were able-bodied men. The rest were women and young children. Senor Rawson was greatly disappointed when he heard that the colonists expected in the “Halton Castle ” were not to arrive, and still more so when he learnt the sort of emigrants who had set foot on the Patagonian coast.”

 

Ac felly rydym wedi dysgu bod Llywodraeth yr Ariannin yn ymwybodol o oedrannau, rhywogaeth ac, mae´n debygol, enwau a swyddi'r 250 a oedd yn fod i hwylio ar yr Halton Castle, a'u bod ddim yn meddwl bod y criw a doth ar y Mimosa yn addas.  Mae´n debygol felly bod rhestr wreiddiol teithwyr y Halton Castle rhywle ym Muenos Aires! Trysor coll arall sydd eto i´w ganfod!

​

Dyma un enghraifft o sut mae'r cyfuniad o hen ddogfennau, lyfrau a ffilmiau yn ein galluogi i ddysgu mwy am y dyddiau cynnar ac sydd hefyd yn ein galluogi i gyfoethogi ein teithiau hanesyddol.Wrth gwrs, nid yw popeth sydd mewn llyfr wastad yn ffeithiol gywir, yn enwedig os yw'r llyfrau yn  hÅ·n neu gan awduron llai adnabyddus. Er enghraifft fe gyhoeddwyd  cyfrol ddiddanol tu hwnt gan  Rodolfo Casamiquela (sydd yn ddi-gymraeg), ar yr enwau a ddefnyddir gan y Cymry yn Chubut. Nid yw pob enw sy'n cael ei grybwyll yn y llyfr yn enw Cymraeg, ac mae'n siŵr ei fod yn fwy awyddus i gyhoeddi´r llyfr nag ydoedd i wirio´r ffeithiau. Mae'n rhestru cwpwl o gannoedd o enwau, gan gynnwys rhai sydd wedi cael eu llygru rhyw fymryn gan yr iaith fain, megis Drofa Gabets (Cabbage?) a Drofa Sandiog (Sandy?). 

Mae'r dolenni isod yn arwain at gynnwys ein llyfrgell. Ynghyd a llawer o luniau difyr o bobl a llefydd ledled y Wladfa a dynnwyd dros y blynyddoedd, byddwch hefyd yn canfod cannoedd o lyfrau ar Batagonia, ynghyd a dwsinau o fapiau, ffilmiau a rhaglenni teledu prin. Mae'n debyg nad oes casgliad mwy cynhwysfawr o raglenni teledu a radio ar y Wladfa i'w cael  unrhyw fan arall yn y byd. Mae ein casgliad o lyfrau Cymraeg, Saesneg a Sbaeneg yn cynnwys y mwyafrif o´r cyhoeddiadau pwysicaf un. Mae ein casgliad o fapiau, sydd wedi eu sganio´n ddigidol at y safon uchaf, yn cynnwys mapiau'r Cymro o archwiliwr,  Henry Libanus Jones. Daethpwyd o hyd iddynt yn cuddio yng nghrombil y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol yn Llundain.

bottom of page