Does neb yn gwybod mwy...
Cyrraedd Yno
Mae yno sawl dewis, yn dibynnu ar ble 'dych chi'n byw, a ble yr hoffech fynd naill ai ar y ffordd i Batagonia, neu ar y ffordd nol. Ar hyn o bryd, mae hediadau mewnol yn yr Ariannin yn ddrud, ac mae gan rai cwmnïau awyr lwfans bagiau is ar gyfer y rhan fewnol o'r daith. Mae'r cwmni awyr pris isel cyntaf o fewn yr Ariannin newydd ennill trwydded i weithredu, ac mae eraill wrthi´n ceisio, ond byddent yn hedfan i gyrchfannau twristaidd poblogaidd gan gynnwys Cordoba, Mendoza, el Calafate ac Iguazu. Ar hyn o bryd, nid oes cynlluniau i gynnig hediadau rhad i´r Wladfa.
Mae gan y rhan fwyaf o gwmnïau Ewropeaidd hediadau dau gymal i Fuenos Aires, ac mae British Airways yn hedfan o Lundain. Mae LATM, sef cyfuniad o'r cwmnioedd LAN o Chile a TAM o Frasil, yn cynnig arlwy hyblyg iawn. Er enghraifft, yn ystod rhai adegau'r flwyddyn maent yn cynnig hediadau o Fariloche i Lundain, gydag arhosiad yn Sao Paulo. Mae tocyn dwyffordd o Lundain i Bariloche (sydd ryw 300km i'r gogledd o Esquel ac sy'n le gwych i gychwyn eich antur ym Mhatagonia) fel arfer yr un pris a thocyn dwyffordd o Lundain i Fuenos Aires, sy´n golygu eich bod yn cael hediad mewnol gyda'r un lwfans bagiau, am ddim. Mae LATAM hefyd yn rhedeg hediadau rhyngwladol o Ewrop i Aeroparque (Jorge Newbery), sef maes awyr hediadau mewnol Buenos Aires, sy'n golygu ei bod hi'n bosib dal hediadau i Batagonia heb orfod trafferthu mynd trwy Ezeiza, sef y maes awyr rhyngwladol.
Lawrlythwch un o'n mapiau yn barod ar gyfer eich taith
Dewis arall, yn enwedig ar gyfer y rhai sydd wedi bod o'r blaen, yw hedfan i Santiago yn Chile a dal hediadau i´r de o´r un maes awyr. Gellir hedfan i Buerto Montt chroesi i mewn i'r Ariannin drwy Groesiad y Llynnoedd ym Mariloche, neu gellir hedfan ymhellach i'r de i Balmaceda (Coyhaique) a gyrru mewn ar hyd yr anhygoel Carratera Austral. Mae ceir yn tueddu i fod yn rhatach i'w llogi yn Chile, ac nid oes angen cwblhau gwaith papur i groesi'r ffin, fel y sydd rhaid gwneud yn yr Ariannin.
Os oes gennych ddigon o amser, gallwch brynu tocyn rownd-y-byd a galw heibio Ynys y Pasg a Thahiti ar eich ffordd i'r gorllewin o Dde America. Mae bargeinion i'w cael drwy hedfan i Uruguay, a gellir hedfan i Fontefideo cyn dal y fferi i Fuenos Aires. Yn olaf, ar gyfer yr anturus a chefnog , gellir hedfan dros Bont Awyr y Falklands o RAF Brize Norton drwy Ynys Ascension (neu Affrica neu Benrhyn Verde) a dod mewn i'r Ariannin drwy Rio Gallegos neu Bunta Arenas.
​
Nid oes hediadau mewnol unwaith yr ydych wedi cyrraedd Y Wladfa,ac felly dim ond gyda bws neu gar y mae hi´n bosib croesi o'r Iwerydd i'r Andes. Yn yr Andes, mae sawl cwmni awyr o'r gogledd ac o'r de yn gwasanaethu Bariloche. Yr unig opsiwn yn Esquel yw'r hediad dyddiol i Fuenos Aires. Mae gan Drelew hediadau dyddiol i Fuenos Aires ac i El Calafate a Tierra del Fuego, tra bod hediadau yn mynd i Fuenos Aires yn unig o Borth Madryn, ryw 65km i'r gogledd o Drelew.