Does neb yn gwybod mwy...
Amdanom Ni
Pwy Ydym Ni?
​
Mae Gwladfa Patagonia yn gwmni teithio sydd wedi ei sefydlu yn Esquel ym Mhatagonia. Mae'r cwmni'n arbenigo mewn gwibdeithiau personoledig o gwmpas y Wladfa Gymreig i ymwelwyr sydd a gyda hwy ddiddordeb mewn hanes Y Wladfa, ynghyd a'i thirwedd drawiadol, ei daeareg, paleontoleg a'i bywyd gwyllt.
​
Cewch fwynhau Patagonia yn ei holl gogoniant, wrth i chi ddod i adnabod yr ardal a gwenud ffrindiau newydd.
​
Perchnogion y cwmni yw Jeremy Wood, sy'n arbenigwr byd ac yn awdur ar Y Wladfa, a'i wraig Cristina, sydd yn ddisgynnydd i rhai o'r Cymry cyntaf i gyrraedd Patagonia. Mae eu mab Tomos, sydd yn 12 oed, dan hyfforddiant i fod yn dywysydd!
​
Beth Dyn Ni'n Ei Wneud?
​
Gyntaf oll, rydym yn ymgynghori. Beth bynnag yr hoffech chi ei wybod, rhowch wybod i ni. Ni yw'r arbenigwyr a does neb yn gwybod mwy. Rydym yma i'ch helpu chi, beth bynnag eich dymuniad!
Os yr hoffech chi ddod i´r Wladfa, gallwn ni drefnu eich taith yn gyfan gwbl neu yn rhannol a gallwn eich helpu i drefnu eich taith (gwestai, trafnidiaeth, prydau, cael cwrdd â'r gymuned Gymraeg, gwibdeithiau a.y.b.) ond bydd disgwyl i chi drefnu eich hediadau eich hunain.
Gallwn eich cynorthwyo a'ch cynghori ar bob rhan o'r broses wrth i chi archebu eich hediadau. Os yr hoffech ymweld â rhannau eraill o'r Ariannin, mae gennym gysylltiadau yn y diwydiant twristiaeth ledled y wlad.
​