top of page

 Taith Rygbi Cymru 2018

Ffans Cymru'n Cefnogi'r Iaith Gymraeg yn y Wladfa

Bu cyffro mawr ymysg cymuned Gymreig Y Wladfa pan gyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru llynedd fod dwy gêm brawf yn mynd i gael eu chwarae yn yr Ariannin am y tro cyntaf ers 2006, pan chwaraewyd un o’r gemau ym Mhorth Madryn. Yn anffodus, roedd y ffioedd a orchmynnwyd i gynnal gêm  ryngwladol yn y dalaith du hwnt i afael undebau rygbi Trelew a Phorth Madryn, ac felly fe chwaraewyd y ddwy gêm yng ngogledd yr Ariannin.

​

Serch hynny, wedi rhagweld y byddai yno frwdfrydedd ymysg cefnogwyr Cymru i ymweld â’r Wladfa yn ystod eu taith i’r Ariannin, daeth y tair ysgol Cymraeg at ei gilydd i drefnu digwyddiadau ar eu cyfer, i’w croesawu ac i godi ychydig o arian i gefnogi’r iaith Gymraeg yn Y Wladfa.

​

Teithiodd Jeremy Wood o Esquel i Gymru ar ran Ysgol y Cwm, er mwyn cwrdd â threfnwyr teithiau a oedd yn paratoi i gludo’r cefnogwyr allan i’r Ariannin, ac i egluro trefniadau’r ysgolion a’r croeso oedd yn cael ei gynllunio.

​

O ganlyniad, daeth tua 60 o gefnogwyr i Hen Gapel Bethel, y Gaiman, ar nos Fawrth y 12fed o Fehefin, i fwynhau Noson Lawen a drefnwyd gan yr Ysgolion Cymraeg yn Nhrelew a’r Gaiman. Casglwyd dros ddwy fil o ddoleri, a gafodd ei rannu’n hafal ymysg yr ysgolion.

​

Wedi dychwelyd o’r Gaiman, fe gyflwynodd Jeremy Wood yr arian a godwyd i Ysgol y Cwm yn y Noson Lawen i Gymdeithas Gymreig Trevelin. Bydd yr arian yn cyfrannu at gwblhau’r gwaith adeiladau sydd eisoes wedi cychwyn ar weddill adeilad Ysgol y Cwm yn Nhrevelin.

​

Dyma’r tro cyntaf i’r tair ysgol Gymraeg yn y Wladfa weithio ar y cyd ar brosiect o’r fath, ac, wedi llwyddiant ysgubol, mae’n debygol iawn nad dyma fydd y tro olaf.

bottom of page