top of page

Does neb yn gwybod mwy...

 Ein Perthynas Gyda'r Gymuned Gymreig

Mae Jeremy Wood yn aelod o'r Gymdeithas Gymreig yn Esquel ac mae hefyd ar brif bwyllgor y gymdeithas Gymreig yn Nhrevelin, ble bu'n flaengar yn ei waith i godi arian i'r ysgol Gymraeg newydd, Ysgol y Cwm (www.ysgolycwm.com). Drwy gydol 2015, talodd Jeremy gyflog un o'r athrawon, Iwan Madog Jones, wedi i’r awdurdodau yng Nghymru wrthod cais y gymdeithas Gymreig yma yn Nhrevelin i gael athro Cymraeg llawn amser. Roedd Jeremy yn un o sefydlwyr Pwyllgor yr Andes (bellach wedi ei ddiddymu), a ffurfiwyd i gynllunio'r dathliadau 150 yma yn yr Andes. Bu'n bleser ac yn anrhydedd i Jeremy gael ei ddethol fel un o 30 o Wladfawyr a gafodd wahoddiad i ail-greu'r glaniad gwreiddiol ym Mhorth Madryn ar yr 28ain o Orffennaf 2015.

 

Mae Jeremy yn awdur (mae ei lyfr am lofruddiaeth tri o Gymry ifanc yn y Wladfa yn 1884 ar gael o wefan yr Ysgol, gyda'r elw i gyd yn mynd tuag at yr ysgol). Mae hefyd yn siarad yn rheolaidd mewn cynadleddau rhyngwladol ar Y Wladfa, ac mae'n cyfrannu i bapurau newydd a chylchgronau – efe yw gohebydd Patagonia 'Ninnau', papur newydd Cymreig Gogledd America.  Mae ganddo berthynas agos gyda'r BBC, ac mae ganddo gytundeb arbennig sy'n ei alluogi i gael mynediad at yr holl ddeunydd teledu a radio parthed y Wladfa cyn 1980. Bu hefyd yn gweithio fel trefnydd ar raglen Huw Edwards ar y Wladfa yn 2013.

bottom of page