top of page

Does neb yn gwybod mwy...

Elfennau Safonol y Daith

Mae ein holl deithiau o gwmpas y Wladfa yn cynnwys ymweliadau a'r prif drefi Cymreig. 'Dyn ni wastad yn aros yn Esquel neu yn Nhrevelin (maent yn gymdogion agos), Gualjaina, Yr Allorau, Y Gaiman ac, fel arfer, ym Mhorth Madryn. Ynghyd a'r trefi hyn, 'dyn ni hefyd yn ymweld â Paso del Sapo, Cerro Condor, Tir Halen, Dolavon, Dol y Plu, Trelew, a Rawson. Bydd digonedd o amser i ddod i adnabod y cymunedau Cymreig, ac i fwynhau´r bywyd gwyllt a'r golygfeydd anfarwol, ynghyd a'r pengwiniaid a'r morfilod ger Penrhyn Valdez, os bydd y tymor yn cyd-fynd gyda'ch ymweliad. Ac, wrth gwrs, llawer iawn o hwyl a sbri

​

Dyma'r elfennau sydd i'w cael ym mhob taith (mae llawer i'w gweld yn ein lluniau):

 

  • Teithiau tywys am ymgyfarwyddo yn yr holl drefi ble byddwn yn aros, ynghyd a Threlew.

  • Taith dywys hirach o gwmpas Y Gaiman, gyda'r holl atyniadau, gan gynnwys TÅ· Te Caerdydd (sydd bellach yn gysegrfa i´r Dywysoges Diana), Cerrig yr Orsedd, Coleg Camwy a llawer mwy.

  • Digonedd o gyfleoedd i fynd am dro yng nghefn gwlad drawiadol Patagonia.

  • Swper yn nhÅ· Jeremy yn Esquel a phryd o fwyd mewn dwy fferm Gymreig (un ger Trevelin ac un ger Y Gaiman, ynghyd a phryd o fwyd yn yr enwog Country Restaurant yn Gualjaina, yn y Comedor yn Yr Allorau, yn y bwyty Cymreig yn Y Gaiman ac yn y Felin yn Nolavon. Byddwn hefyd yn mwynhau picnic i ginio ar ein holl alldeithiau, ac wrth groesi'r Paith.

  • Cyflwyniad ar emau Patagonia gan Ian Fraser, sydd yn wneuthurwr gemwaith ac yn of arian enwog o Drevelin.

  • Ymweliad a'r ysgolion Cymraeg, sef Ysgol y Cwm yn Nhrevelin ac Ysgol yr Hendre yn Nhrelew (gweler y blwch isod am ragor o fanylion) ac ac Ysgol y Rifleros yn Cerro Condor.

  • Taith o gwmpas yr Amgueddfa Baleontoleg (MEF) byd-enwog yn Nhrelew, a'r man ar y Paith ble darganfuwyd sawl ffosil, ynghyd ac ymweld â model maint llawn o'r darganfyddiad diweddaraf – anghenfil 42 medr o hyd ac 20 medr o daldra.

  • Cyfnod o wylio sêr trawiadol Hemisffer y De wrth groesi'r Paith, heb unrhyw lygredd goleuni i amharu ar yr olygfa.

  • Ymweliad a nifer o´r Capeli Cymreig, gan gynnwys Capel Seion yn Esquel, Glan alaw yn Nolavon, Bethel (Hen a Newydd) yn Y Gaiman a Moriah yn Nhrelew. Gall trefnu ymweliadau a chapeli eraill yn hawdd.

  • Sgwrs gydag un o hoelion wyth y gymuned Gymreig.

  • Ymweliad a´r prif amgueddfeydd yn Nhrevelin a'r Gaiman.

  • Diwrnod yn ymweld â Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, Parc Cenedlaethol Los Alerces (gweler y blwch isod am fanylion)

  • Alltaith ar hyd Ffordd y Rifleros, sy'n cynnwys saffari'r condor (gweler y blwch isod am fanylion)

  • Taith o dridiau ar draws y Paith (gweler y blwch isod am fanylion)

  • Taith o Borth Madryn i Rawson (65km) sy'n dilyn trac llwch – yn union fel bu rhaid i'r Cymry cyntaf wneud yn ystod eu hwythnos gyntaf ym Mhatagonia ym mis Awst 1865.

  • Gwylio morfilod (Mai i Dachwedd) o Draeth Doradillo ger Borth Madryn.

  • Diwrnod yn ymweld â Safle Treftadaeth y Byd UNESCO Península Valdés, ger Borh Madryn (rhwng Mehefin a Rhagfyr, gweler y blwch isod am fanylion)

  • Alldaith i´r man ble y glaniodd y Mimosa ar 26ain o Orffennaf 1865 (Penrhyn yr Ogofâu a thaith o gwmpas y lanfa.

  • Taith hir, araf ar hyd y Dyffryn (50km) o Dir Helen i'r Gaiman (neu'r ffordd arall) i weld y system ddyfrio a adeiladwyd gan y Cymry, a'r ffermydd sydd yn dal i'w ddefnyddio.

  • Cinio neu goffi boreol yn y Touring Club yn Nhrelew, sy'n un o brif sefydliadau'r Wladfa.

  • Ymweliad ag Argae Ameghiino, a gwblhawyd yn 1963 gan roi terfyn ar y llifogydd difrifol a oedd yn difrodi trefi'r dyffryn yn rheolaidd.

  • Ymweliad a Dyffryn y Merthyron, bla llofruddiwyd tri o Gymry ifanc gan frodorion yn 1884.

  • A llawer o win Archentaidd!!

​

​

bottom of page