top of page

Does neb yn gwybod mwy...

Ysgol y Cwm yn Nhrevelin a Dysgu

Cymraeg yn y Wladfa

Gweler www.ysgolycwm.com

​

Mae plant wedi bod yn dysgu Cymraeg yn Nhrevelin yn ers i'r arloeswyr cyntaf gyrraedd yr Andes yn yr 1880au. Ar y cychwyn, cawsant eu dysgu yn y cartref ac yn yr Ysgolion Sul a'r Capel, ac yn fwy diweddar gan athrawon Cymraeg Archentaidd, oedd yn ymweld â'r ysgolion gwladol. Roedd plant ac oedolion hefyd yn mynychu Ysgol Gymraeg yr Andes, yn NhÅ· Capel Bethel, ond fuodd yno erioed ysgol Gymraeg llawn amser yn yr Andes a fuasai´n medru dysgu plant drwy gydol eu haddysg gynradd. Yn y 1990au hwyr, cychwynnwyd y Cynllun Dysgu Cymraeg yn y Wladfa gan Lywodraeth Cymru, cynllun a oedd yn rhannol ariannu addysg Gymraeg yn y Wladfa, gydag athro neu athrawes yn dod o Gymru i´r Andes yn flynyddol.

​

Er nad oedd gwersi Cymraeg llawn amser ar gael yn Ysgol Gymraeg yr Andes ar y pryd, fe lwydodd y disgyblion a´r ysgol i gyflawni campau sylweddol. Ysgol Gymraeg yr Andes oedd yr ysgol gyntaf o´r Ariannin I ennill ysgoloriaeth i anfon un o'i disgyblion i Gymru (i'r ysgol haf yn Llanbed); mae un o'i chyn disgyblion wedi meistroli´r iaith i'r fath raddfa ei bod hi bellach yn gweithio fel cyfieithydd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru; Ysgol Gymraeg yr Andes yw´r unig ysgol yn Y Wladfa i ddarparu enillwr Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a´r unig ysgol yn y byd i gael dau enillwr yn y gystadleuaeth (doedd yr un ohonynt o dras Gymreig, ond roedd ganddynt ddigonedd o angerdd a brwdfrydedd tuag at yr iaith diolch i´w hathrawon).

Cynigodd bensaer Cymreig lleol ddylunio´r ysgol fel ei fod yn bosib ei hadeiladu mewn camau – ychydig o ddosbarthau ar y tro, yn ôl yr hyn o arian sydd ar gael, ac yna neuadd ysgol a fuasai hefyd yn gartref parhaol I Eisteddfod Trevelin. Roedd y llywodraeth ranbarthol wedi addo arian, a chytunodd y Gymdeithas Gymraeg yn Nhrevelin werthu plotiau o dir er mwyn codi arian i gychwyn y broses adeiladu.

 

Ond dyw pethe heb fynd fel y disgwyl.

​

Fe saethodd chwyddiant y wlad i fyny i 40% y flwyddyn, a chafodd y llywodraethau rhanbarthol a cenedlaethol eu disodli mewn etholiad cyffredinol ym mis Hydref 2015 gan geidwadwyr a oedd yn edrych i dorri awr ar wariant cyhoeddus. Er parhau gyda´r gwaith adeiladu, roedd yn rhaid gwerthu rhagor o dir -ond gyda sefyllfa wleidyddol gweddol ansicr, doedd dim chwant prynu ymysg buddsoddwyr. Diddymwyd yr addewid gan y llywodraeth ranbarthol i ddarparu arian ar gyfer yr ysgol, a doedd dim sicrwydd o gwbl y buasai´r ysgol medru agor ei drysau´n barod ar gyfer y tymor newydd ym mis Mawrth 2016. Gyda digalonni yn yr Ades, camodd ffrindiau o Gymru ymlaen gyda rhoddion ariannol. Sefydlwyd archebion banc i gyfrif yr Ysgol gan unigolion, tra bu eraill yn rhoi arian o brosiectau er mwyn agor yr ysgol mewn pryd. Roedd rhin yn cynnwys: yr awdur Jon Gower, a gytunodd i roi elwau o'i lyfr Gwalia Patagonia tuag at yr ysgol; pwyllgor gefeillio Trevelin-Aberteifi; John Watkin o Dregaron, a fewnforiodd gwin o Batagonia i Gymru er mwyn ei werthu er budd yr ysgol; Jeremy Wood o Esquel, a gyhoeddodd lyfr am ddogfen hanesyddol a ddarganfuwyd yn ddiweddar Huw a Cathy Pearce a ddyluniodd a gwerthodd calendrau ar gyfer yr ysgol, ynghyd a sawl un arall a fu´n hael iawn eu cymorth.

​

Yn y pen draw, fe gwblhawyd popeth i alluogi´r ysgol i agor ei drysau i´w disgyblion ifanc. Wedi ychydig fisoedd o weithredu, fe archwiliwyd yr ysgol yn swyddogol gan yr awdurdodau rhanbarthol , gan ddenu clod am ansawdd y cyfleusterau, a safon yr athrawon a´r staff. Hyd yn hyn, mae dwy ystafell ddosbarth wedi eu cwblhau, fydd yn galluogi´r ysgol i weithredu hyd at ddiwedd 2018 heb lawer mwy o wariant sylweddol. Er hyn, bydd yn rhaid codi arian ar gyfer camau nesaf y gwaith adeiladu, ac nid oes unrhyw sicrhad o noddiant o Gymru, yn enwedig yn dilyn Brexit. Yn anffodus, mae´r nawdd blynyddol gan Lywodraeth Cymru a´r Cyngor Prydeinig wedi disgyn mewn termau real ers cychwyn y cynllun yn y 1990au, a dim ond cefnogaeth ran-amser un athro neu athrawes o Gymru y mae Trevelin yn ei dderbyn. Ar hyn o bryd, nid yw´n sicr os bydd y rhaglen yn cael noddiant y tu hwnt i eleni.

Cynhaliwyd gwersi ar gyfer plant oedran meithrin, cynradd, arddewgwyr ac oedolion yn Ysgol Gymraeg yr Andes tan 2016, ac ers hynny fe'u cynhaliwyd yn Ysgol y Cwm. Mae sawl o'r dysgwyr wedi ennill ysgoloriaethau i´r ysgolion haf yn Llanbed, Harlech a Chaerdydd. Ynghyd a dysgu Cymraeg, mae´r cwricwlwm hefyd yn cynnwys elfen ddiwylliannol, ac mae´r dysgwyr yn cael eu paratoi i gystadlu yn yr Eisteddfodau blynyddol sy´n cael eu cynnal yn Nhrevelin ac yn Nhrelew, a hefyd ar gyfer Eisteddfod y bobl Ifanc yn y Gaiman. Mae´r ysgol hefyd yn cynnal grŵp Dawnsio Gwerin sy´n cynrychioli Cwm Hyfryd mewn eisteddfodau a gwyliau, ac maent wedi ennill sawl gwobr genedlaethol.

​

Yn 2013, fe sefydlwyd Pwyllgor yr Andes gan y cymunedau Cymreig yn Esquel a Threvelin. Pwrpas y pwyllgor oedd cynllunio ar gyfer dathlu 150 o flynyddoedd ers glaniad y Mimosa. Galwyd am syniadau i ddathlu´r pen blwydd arbennig, ac wedi sawl cynigiad diddorol, penderfynwyd blaenoriaethu un ac un unig – sef creu ysgol feithrin a chynradd Cymraeg llawn amser yn yr Andes, yn gofeb byw i ymdrechion y Cymry cynnar. Ac felly y ganwyd Ysgol y Cwm.

bottom of page