top of page

Does neb yn gwybod mwy...

Y Cymry Ym Mhatagonia

Dychmygwch berfeddion cefn gwlad Cymru yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd teimladau'n gryf ymysg y bobl leol fod gorthrymder mawr ar droed, ac roeddynt yn poeni am ddyfodol eu hiaith, eu crefydd a'u diwylliant. I waethygu pethe, doedd dim rheolaeth gennynt o gwbl dros eu tiroedd eu hunain,  a doedd dim dealltwriaeth na chydymdeimlad o unrhyw fath i'w gael gan Lywodraeth Saesnig wedi ei leoli gannoedd o filltiroedd i ffwrdd yn Llundain. Breuddwydiasant am Gymru Newydd tu hwnt i Gymru, a chael camu allan o'r cysgodion tywyll er mwyn pennu eu tynged eu hunain.

Ar y pryd, roedd yr Ariannin yng nghanol un o'i brwydrau diderfyn gyda Chile, ac yn bwriadu atgyfnerthu ei hawl i'r tiroedd ar hyd ei ffin gorllewinol. Roedd y llywodraeth yn ymwybodol o gynefin llym ac anghroesawgar De Patagonia, ac yn gwybod yn iawn y buasent yn cael trafferth i ddwyn perswâd ar Archentwyr i ymsefydlu yno. Pan ddaeth cyfle i wahodd grŵp o Gymry gweithgar ac ymroddedig i ymsefydlu ar lecyn o dir (tua 256km sgwâr mewn maint) ryw fil a hanner o filltiroedd i'r de o Fuenos Aires, roeddynt yn hapus iawn i ymestyn croeso.

Ym mis Mai 1865, wedi eu hysbrydoli gan weledigaeth y pregethwr Michael D Jones o'r Bala, fe hwyliodd bron i 160 o ymfudwyr o Lerpwl ar y Mimosa. Ym mis Gorffennaf 1865, glaniasant ym Mhenrhyn yr Ogofâu (Punta Cuevas heddiw), ar gyrion Porth Madryn, lleoliad a oedd wedi cael ei archwilio rhai blynyddoedd yn gynharach gan Lewis Jones a Love Jones-Parry. Roedd y ddau wedi adrodd yn ôl y bod yno ddigonedd o ddeunydd adeiladu ynghyd a safle diogel i angori. Cafodd y dref gyfagos, Trelew, ei enwi ar ôl Lewis Jones, ond dim ond oherwydd bod yr enw gwreiddiol, Llanfair, yn ormod o lond ceg i’r di-gymraeg, ac fe enwyd Porth Madryn ar ôl Castell Madryn, ger Pwllheli, a oedd yn hen gartref i deulu Love Jones-Parry.

​

Bu yno gryn galedi ar y fordaith, gyda 5 o farwolaethau, 2 enedigaeth, sawl lled-fiwtini, gorlenwi nes bod pobl yn dynn fel penwaig yn yr halen, ac afiechyd a salwch yn rhemp. Trwy gydol eu siwrne, mae'n rhaid bod yr ymfudwyr yn ysu i gyrraedd ´Gwlad yr Addewid’, ac felly mae'n anodd iawn dychmygu eu teimladau pan laniasant yng ngwacter y stepdir Patagonaidd yng nghanol gaeaf llym y De.

​

Y Parchedig Michael D. Jones
Lewis Jones ymysg y Tehuelche, 1867

Ond, wedi gorfod goddef blynyddoedd o orthrymder nol yng Nghymru, roedd y gwladfawyr yn ddigon gwydn i wneud y gore o'r sefyllfa. Yn araf deg, dechreuodd yr egin Wladfa dyfu a ffynnu. Yn wahanol iawn i wladychwyr eraill ledled gwledydd America, roedd credoau crefyddol y Cymry yn eu hatal rhag rhyfela gyda'r brodorion Tehuelche lleol, a chyn bo hir roeddynt wedi magu perthynas bwysig gyda'r Indiaid, a oedd yn cynnwys masnacha mewn plu Rhea (aderyn tebyg i estrys - roedd y plu yn werth mwy na’i bwysau mewn aur ar y pryd).

 

Daeth tir yn brinnach wrth i'r Wladfa dyfu, ac felly fe ddanfonwyd criw o arloeswyr i fforio'r gorllewin.

Cychwynnodd Y Rifleros ar eu ceffylau ym mis Hydref 1885 gyda'r bwriad o ddilyn Afon Camwy tuag at y gorllewin. O fewn mis roeddynt wedi teithio dros 700km heb weld llawer mwy na phrysgwydd. Roeddynt o fewn cyrraedd i'r Andes a’r ffin gyda Chile pan ddringasant i ben copa uwchben dyffryn niwlog. Wedi gwersylla'r noson, deffrasant i weld y niwl yn codi i ddatgelu dyffryn gwyrdd, ffrwythlon - 'Cwm Hyfryd', fel yr ebychodd un o'r criw. Dyma ble y lleolir Trevelin heddiw, ac mae'r enw yn adlewyrchu'r llwyddiant a gafwyd wrth ddatblygu'r ardal yn un o brif ganolfannau tyfu gwenith yr Ariannin. Mae'r llwyddiant amaethyddol yn parhau hyd heddiw, gyda thiwlipau yn cael eu hallforio i Amsterdam, a cheirios i Marks & Spencer!

​

Heddiw, felly, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, mae'r iaith Gymraeg yn ffynnu ym Mhatagonia, ac mae ei diwylliant yn cael ei diogelu gan lwyddiannau di-ri'r Eisteddfodau. Amddiffynnir yr iaith yn eiddgar gan gymunedau Cymreig Trevelin, Esquel, Comodoro Rivadavia, Sarmiento, y Gaiman, Dolavon, Tir Halen, Trelew, Porth Madryn a Rawson.

 

Wrth i Gymru anfon ei meibion a'i merched i ymweld â'r Cymru Newydd, 'dyn ni yma yn yr Ariannin yn eu croesawu'n dwymgalon ac yn gobeithio eu bod hwy, fel eu cyndadau, yn canfod Cymru y tu hwnt i Gymru.

​

Darllenwch ragor am Yr Iaith Gymraeg a Patagonia: Y Lle 
bottom of page