top of page

Does neb yn gwybod mwy...

Yr Iaith Gymraeg Ym Mhatagonia

Cafodd yr erthygl hon ei hysgrifennu gan Jeremy Wood, a'i chyfresoli yn 'Ninnau', sef papur newydd Cymreig Gogledd America.

 

 

Pan laniodd y Mimosa ym Mae Newydd (yn agos at ble y lleolir Porth Madryn heddiw) ar Orffennaf y 26ain 1865, Cymraeg oedd iaith gyffredin yr ymfudwyr, ac roedd hwnnw'n Gymraeg pur, dilwgr -  yn gymysg cyfoethog o dafodieithoedd y de a'r gogledd, ac yn rhydd o ddylanwad llygredig yr iaith fain. Mae’r un yn wir heddiw. Er bod ambell i air Sbaeneg – yn hytrach na Saesneg - wedi ymdreiddio i sgwrs bob dydd, mae Cymraeg Y Wladfa yn parhau i fod yr un mor loyw a chyfoethog ac ydoedd ganrif a hanner nôl.

 

Mae'r iaith wedi gwynebu sawl her ers y dyddiau cynnar, ac oni bai am gymorth amserol o ffynhonnell annisgwyl, mae'n debygol y buasai Cymraeg Y Wladfa wedi ymuno  â Chernyweg a Manaweg ar reestr yr ieithoedd Celtaidd hynny ydoedd unwaith mor gyffredin, ond sydd bellach wedi dirywio'n arw yn eu niferoedd.

 

Gwahoddwyd y Cymry draw gan lywodraeth yr Ariannin i wladychu darn o dir anghysbell, a oedd yn anhysbys i'r mwyafrif o Ewropeaid ar y pryd, ac yn destun braw i'r Archentwyr, a oedd yn gyfarwydd â chwedlau am frodorion ffyrnig yr ardal. Roeddynt er eu pennau eu hunain. Doedd neb erioed wedi ymgartrefu yno o'r blaen, a 'chydig iawn oedd wedi ymweld â'r lle, ar wahân i ambell i long, helwyr gwartheg ac Indiaid crwydrol. Dan anogaeth Llywodraeth yr Ariannin, llwyddodd y criw yma o lowyr, llafurwyr, clerigwyr a chlercod i drefnu eu cymunedau yn broffesiynol, i'r fath raddfa'r bod ganddynt eu cyfundrefn gyfreithiol eu hunain. Wrth adeiladau'r capeli, gosodwyd sylfaen gadarn ar gyfer y Cymru Newydd, un wedi ei seilio ar addysg seciwlar, gyda rhyddid crefyddol ac ieithyddol, ymhell o ymyrraeth landlordiaid barus a gweledyddion o brif ddinas estron.

 

Dyna oedd y gobaith, oleiaf.

bottom of page