Does neb yn gwybod mwy...
Patagonia: Y Lle
Mae'n ymestyn o 40 gradd i 55 gradd i'r de (yr un pellter ac sydd rhwng Iwerddon a'r Eidal) ac mae'n dod i derfyn o fewn llai na 1000km o Ogledd Antartica. Mae dinas fwyaf deheuol Seland Newydd (Invercargill) i'w chanfod 46.4 gradd i'r de, tra bod pen deheuol Affrica 34 gradd i'r de, bron 2,500km i'r gogledd o'r pwynt cyfatebol yma ym Mhatagonia.
Er ei fod yn un o'r llefydd mwyaf anial yn y byd, mae gan Batagonia fioamrywiaeth arbennig, ar raddfa anhygoel: moroedd sy'n llawn o'r mamaliaid mwyaf, rhewlifoedd anferthol, fforestydd glaw dirfawr gyda choed tebyg i secoia sydd bron 4000 o flynyddoedd oed, amrywiaeth cyfoethog o adar - o'r pengwin addfwyn i'r fflamingo gosgeiddig i'r condor esgynnol - afonydd ffyrnig sy'n cynnig pysgota plu ardderchog, a phob mathau o anifeiliaid sy'n crafu bywoliaeth ar y paith gwag gwyntog. I'r rheini sydd ganddynt ddiddordeb mewn bywyd gwyllt fwy hynafol, mae Patagonia yn gartref i rai o'r dyddodion dinosoriaid fwyaf cyfoethog y byd. Mae darganfyddiadau newydd a dychrynllyd yn digwydd yn rheolaidd. Yn ddiweddar, daethpwyd o hyd i haenen o ffosilau a oedd yn cynnwys 6 sawropod anferthol yng nghanol talaith Chubut – yr anifeiliaid mwyaf erioed i gerdded ar wyneb y ddaear. Hefyd, yn Cerrdo Condor ar lwybr y Rifleros, darganfuwyd dinosor gyda'r rhan fwyaf o'i berfeddion wedi eu ffosileiddio – y darganfyddiad cyntaf erioed o'i fath.
​
Ychydig iawn o Batagonia sydd wedi ei archwilio a'i fforio, ac mae hyd yn oed llai wedi ei ddatblygu. Mae ei thrigolion yn bobl gyfeillgar a chydnerth sydd wastad yn eiddgar i ddangos y gemau naturiol sydd yn eu plith. Mae'r strydoedd yn ddiogel ac mae croeso cynnes wastad i'w gael i ymwelwyr, mewn gwlad sydd yn sefydlog yn wleidyddol ac yn economaidd. Wrth i rywun feddwl am yr Ariannin, mae rhywun yn tueddu i feddwl am winoedd safonol, tango, cig coch ac efallai oerfel y rhewlifoedd neu wres tanbaid y Paith. Ychwanegwch ychydig o'r meddylfryd arloesol a chymysgwch gyda rhywfaint o awyr agored – dyma'r hyn sydd yn gwneud treulio amser gyda thrigolion Patagonia mor arbennig.
Y bobl sy'n gwneud Patagonia, ac mae Patagonia yn siapio ei phobl.
​
Dewch i weld. Ni aiff yn angof.
Mae Patagonia yn anferthol. Mae'n cynnwys pump o ddau ddeg pedwar o daleithiau'r Ariannin (Rio Negro, Neuquén, Chubut, Santa Cruz a Tierra del Fuego), un ar ddeg o'i ddau ddeg tri Pharc Cenedlaethol, pedwar o’i naw Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, ei holl rewlifau, aur, forfilod, pengwiniaid, forloi eliffant ynghyd â ffyrdd diawledig a'r rhan fwyaf o'i golygfeydd godidog. Mae ganddi arwynebedd o 880,000 cilomedr sgwâr, sydd dreian o arwynebedd yr Ariannin – sef y wlad wythfed fwyaf yn y byd o ran maint. Mae mynyddoedd yr Andes yn rhedeg ar ei hyd, ble mae copaon ucha’r byd, y tu allan i fynyddoedd y Himalaya, yn ymestyn am y nen. Dim ond oddeutu 1.5 miliwn o bobl sydd yn byw yno, sydd yn tua 5% o boblogaeth yr Ariannin. Pe tai Manhattan yn meddiannu'r un dwysedd poblogaeth, buasai llai na 50 o bobl yn byw yno (12 yn achos Caerdydd!). Mae Patagonia oddeutu 40 gwaith maint Cymru, tua unwaith a chwarter maint Tecsas ac unwaith a hanner maint Ffrainc.